Enghraifft o: | Tour de France |
---|---|
Rhan o | 1983 Super Prestige Pernod |
Dechreuwyd | 1 Gorffennaf 1983 |
Daeth i ben | 24 Gorffennaf 1983 |
Rhagflaenwyd gan | 1982 Tour de France |
Olynwyd gan | 1984 Tour de France |
Yn cynnwys | 1983 Tour de France, prologue, 1983 Tour de France, stage 1, 1983 Tour de France, stage 2, 1983 Tour de France, stage 3, 1983 Tour de France, stage 4, 1983 Tour de France, stage 5, 1983 Tour de France, stage 6, 1983 Tour de France, stage 7, 1983 Tour de France, stage 8, 1983 Tour de France, stage 9, 1983 Tour de France, stage 10, 1983 Tour de France, stage 11, 1983 Tour de France, stage 12, 1983 Tour de France, stage 13, 1983 Tour de France, stage 14, 1983 Tour de France, stage 15, 1983 Tour de France, stage 16, 1983 Tour de France, stage 17, 1983 Tour de France, stage 18, 1983 Tour de France, stage 19, 1983 Tour de France, stage 20, 1983 Tour de France, stage 21, 1983 Tour de France, stage 22 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tour de France 1983 oedd 90fed ras Tour de France. Cychwynnodd ar 1 Gorffennaf 2003 gyda chymal prologue yn Fontenay-sous-Bois, a 22 cymal i ddilyn yn gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 22 Gorffennaf. Roedd y llwybr yn 3,809 km (2366.8 mi) o hyd.[1] Ymwelodd y Tour â'r Swistir y flwyddyn hon yn ogystal.
Newidiwyd rheolau cystadlaeaeth y Crys Gwyn ar gyfer 1983, fel ei bod ond yn agored i'r rheiny oedd yn cytadlu yn y ras am y tro cyntaf. Cyfrifwyd y gystadlaeaeth gynt gan ddefnyddio amseroedd y tri cyntaf cymwys ym mhob cymal, newidiwyd hyn i bedwar reidiwr ym 1983.[2] Gan mai Laurent Fignon oedd y reidiwr buddugol a gipiodd y Crys Melyn, a hynny'n dilyn y tro cyntaf iddo gychwyn y ras, ef a gipiodd y Crys Gwyn yn ogystal.
Y gwyddel Sean Kelly a gipiodd y Crys Gwyrdd, a Lucien Van Impe o Wlad Belg enillodd y Crys Dot Polca.
Roedd trefnwyr y Tour eisiau ehangu seiclo i fod yn chwaraeon byd eang, gan gynnwys seiclwyr o'r Bloc Dwyreiniol. Ond, gan mai ond seiclwyr amatur, nid rhai proffesiynol oedd i'w cael yn y dwyrain, agorwyd y Tour i dimau amatur. Ond, yn y pen draw, dim ond timau amatur cenedlaethol o Golombia a Portiwgal a wnaeth gais i gymryd rhan, a thynnodd tîm Portiwgal allan cyn cychwyn y ras.