Tour de France 2003

Tour de France 2003
Enghraifft o:Tour de France Edit this on Wikidata
Dechreuwyd5 Gorffennaf 2003 Edit this on Wikidata
Daeth i ben27 Gorffennaf 2003 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan2002 Tour de France Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTour de France 2004 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2003 Tour de France, prologue, 2003 Tour de France, Stage 1, 2003 Tour de France, Stage 2, 2003 Tour de France, Stage 3, 2003 Tour de France, Stage 4, 2003 Tour de France, Stage 5, 2003 Tour de France, Stage 6, 2003 Tour de France, Stage 7, 2003 Tour de France, Stage 8, 2003 Tour de France, Stage 9, 2003 Tour de France, Stage 10, 2003 Tour de France, Stage 11, 2003 Tour de France, Stage 12, 2003 Tour de France, Stage 13, 2003 Tour de France, Stage 14, 2003 Tour de France, Stage 15, 2003 Tour de France, Stage 16, 2003 Tour de France, Stage 17, 2003 Tour de France, Stage 18, 2003 Tour de France, Stage 19, 2003 Tour de France, Stage 20 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.letour.com/HISTO/TDF/2003/us/annee.html Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o lwybr Tour de France 2003

Tour de France 2003 oedd 90fed ras Tour de France. Cychwynnodd ar 5 Gorffennaf 2003 gyda chymal prologue ym Mharis, a theithio'n glocwedd o amgylch Ffrainc cyn gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 27 Gorffennaf. Roedd y llwybr yn 3,427.5 km (2129.75 mi) o hyd.[1] Ymwelodd y Tour â'r Swistir y flwyddyn hon yn ogystal.

Yn wahanol i'r arfer, ni ymwelodd y ras â unrhyw wledydd eraill, gan ail-greu rhan helaeth o lwybr cyntaf y ras a gystadlwyd canrif yn ddiweddarach ym 1903. Roedd gwobr arbennig, y Centenaire Classement ar gyfer y reidiwr gorau dros y chwe cymal â'u gorffen yn cyfateb i Tour 1903 - Lyon, Marseille, Toulouse, Bordeaux, Nantes a Pharis. Enillwyd gan Stuart O'Grady, gyda Thor Hushovd yn ail. Derbyniodd Tour de France 2003 hefyd Wobr Tywysog Asturias am Chwaraeon.

Y ffefryn o'r 198 reidiwr a oed yn cystadlu, oedd Lance Armstrong, a oedd yn anelu am ei bumed fuddugoliaeth a fuasai'n gyfartal gyda'r record ar gyfer y ras. Credwyd mai ei brif wrthwynebwyr yn y ras fyddai Iban Mayo, Aitor González, Tyler Hamilton, Ivan Basso, Gilberto Simoni, Jan Ullrich, a Joseba Beloki. Er iddo fynd ymlaen i ennill y ras, yn ystadegol, ac o'i gyfaddefiad ei hun, dyma oedd perfformiad gwanaf Armstrong dros y saith mlynedd yr enillodd y ras.[2]

  1. (Ffrangeg) Jacques Augendre (2009). Guide Historique (PDF). Amaury Sport Organisation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Hydref 2009. Adalwyd ar 30 Medi 2009.
  2. (Saesneg) Maillot jaune Lance Armstrong speaks, July 24, 2004. Cycling News (24 Gorffennaf 2004). Adalwyd ar 12 Awst 2009.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne