Enghraifft o: | Tour de France |
---|---|
Math | 2.UWT |
Rhan o | UCI World Tour 2012 |
Dechreuwyd | 30 Mehefin 2012 |
Daeth i ben | 22 Gorffennaf 2012 |
Rhagflaenwyd gan | Tour de France 2011 |
Olynwyd gan | 2013 Tour de France |
Yn cynnwys | 2012 Tour de France, Prologue, 2012 Tour de France, Stage 1, 2012 Tour de France, Stage 2, 2012 Tour de France, Stage 3, 2012 Tour de France, Stage 4, 2012 Tour de France, Stage 5, 2012 Tour de France, Stage 6, 2012 Tour de France, Stage 7, 2012 Tour de France, Stage 8, 2012 Tour de France, Stage 9, 2012 Tour de France, Stage 10, 2012 Tour de France, Stage 11, 2012 Tour de France, Stage 12, 2012 Tour de France, Stage 13, 2012 Tour de France, Stage 14, 2012 Tour de France, Stage 15, 2012 Tour de France, Stage 16, 2012 Tour de France, Stage 17, 2012 Tour de France, Stage 18, 2012 Tour de France, Stage 19, 2012 Tour de France, Stage 20 |
Gwefan | http://www.letour.fr/indexTDF_us.html |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tour de France 2012 oedd 99fed ras Tour de France. Cychwynnodd ar 30 Mehefin 2012 gyda chymal cyntaf yn Liège, Gwlad Belg a gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 22 Gorffennaf. Ymwelodd y Tour â'r Swistir y flwyddyn hon yn ogystal.
Cafodd y llwybr ei gyhoeddi ar gam gan yr ASO ar eu gwefan ar 10 Hydref 2011.[1] Cadarnhaodd yr ASO y llwybr yn y cyflwyniad swyddogol ar 18 Hydref.[2]
Roedd y llwybr yn cynnwys 101.1 km a gwblhawyd ar ffurf treial amser[3] ac ond tri chymal yn gorffen i fyny allt: La Planche des Belles Filles (cymal 7), La Toussuire - Les Sybelles (cymal 11) a Peyragudes (cymal 17).
Ymwelwyd â'r Col du Grand Colombier am y tro cyntaf yn hanes y Tour de France. Cafodd yr esgyniad ei ddefnyddio'n gynharach yn y Critérium du Dauphiné, Tour de l'Avenir ac yn gyson yn y Tour de l'Ain. Esgynnwyd hefyd mynyddoedd cyfarwydd y Col de la Madeleine a'r Col de la Croix de Fer (y ddwy yn Hors catégorie) wrth i'r ras deithio drwy'r Alpau. Ar y daith drwy'r Pyreneau, esgynnwyd y Col de Tourmalet, Col d'Aubisque, Col d'Aspin ar Col de Peyresourde; a phob un o'r pedwar yn ystod cymal 16. Roedd cyfanswm o 25 esgyniad yng nghategori 1, 2, a HC yn cyfrif ar gyfer pwyntiau yng nghystadleuaeth brenin y mynyddoedd.