Enghraifft o: | Taith Prydain ![]() |
---|---|
Dyddiad | 2004 ![]() |
Olynwyd gan | Tour of Britain 2005 ![]() |
![]() |
Cynhaliwyd Tour of Britain 2004, sef y ras gyntaf o'r fersiwn diweddaraf o'r Tour of Britain dros bum diwrnod yn nechrau mis Medi 2004. Trefnwyd hi gan SweetSpot ynghyd â British Cycling. Cefnogwyd y ras gan drefnwyr Cais Llundain ar gyfer Gemau Olympaidd 2012. Hysbyswyd y ras yn eang iawn, a chafodd timau adnabyddus megis T-Mobile (Yr Almaen) a U.S. Postal Service (UD) eu denu i gymryd rhan. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod y ras yng nghategori 2.3 ar galendar rasio'r Union Cycliste Internationale (UCI).
Gorffenodd taith 2004 gyda criterium 45 milltir (72 km) yn Llundain, gwyliodd degoed o filoedd o bobl brêc hir gan y Llundeiniwr Bradley Wiggins, tan y lap cyn yr un olaf, a chymerodd Enrico Degano o dîm Tîm Barloworld y sbrint ar y linell. Enillodd y Colombiwr Mauricio Ardila, o dîm Chocolade Jacques, y Tour.