Enghraifft o: | Taith Prydain ![]() |
---|---|
Dyddiad | 2007 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Tour of Britain 2006 ![]() |
Olynwyd gan | Tour of Britain 2008 ![]() |
![]() |
Cynhaliwyd Tour of Britain 2007 ar 9 hyd 15 Medi 2007. Hon oedd y pedwerydd rhifyn o'r Tour of Britain. Roedd yn ras UCI categori 2.1, ymestynwyd y ras i saith diwrnod yn 2007, defnyddiwyd y seithfed diwrnod ar gyfer cymal yn Ngwlad yr Haf am y tro cyntaf. Roedd y ras yn gyfanswm o 953 km (592.2 milltir).
Dechreuodd ras 2007 yn Llundain a gorffenodd yn Glasgow, a ddefnyddiodd y digwyddiad fel hwb iw cais ar gyfer lleoliad Gemau'r Gymanwlad yn 2014.
Enillodd Romain Feillu y Tour, a cipiodd Mark Cavendish y gystadleuaeth bwyntiau a Ben Swift gystadleuaeth brenin y mynyddoedd.