Toyota Prius

Toyota Prius
Trosolwg
GwneuthurwrToyota
Cynhyrchu1997–presennol
Corff a siasi
DosbarthCar bychan (1997–2003)
Car canolig ei faint (2003–presennol)
Math o gorffSedan 4-drws (1997–2003)
5-drws hatchback (2003–presennol)
TrefnModur blaen, gyriant blaen
Maint
Hyd4.540
Lled1.760
Uchder1.470

Mae'r Toyota Prius (lluosog: Prii[1]) yn gar trydan heibrid maint hatchback a ddatblygwyd ac a gynhyrchwyd gan gwmni Toyota. Mae model 2016 (y Prius Eco) yn cael ei ystyried gan Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd, UDA fel y cerbyd petroliwm mwyaf effeithiol a gaiff ei werthu.[2] Erbyn diwedd 2016 bydd yr ail genhedlaeth wedi eu lansio - y Prius Prime'.

Pan ddaeth allan yn gyntaf yn 1997 roedd ei effeithiolrwydd yn gyfystyr i wneud 42 myg ac erbyn 2016 roedd hyn wedi mwy na dyblu i 95 mpg-e.[3] Erbyn 2016 roedd yn medru gwneud 0-60 mewn 10.6 eiliad a gallai deithio ar raddfa o 94 myg (cyfystyr), ac roedd ganddo bhp o 121 a chyflymder uchaf o112 milltir yr awr. Yn Rhifyn Haf 2016 o gylchgrawn gwerthuso ceir Top Gear, derbyniodd y Toyota Prius 7 marc allan o 10.[4] Fe'i beirniadwyd am ddiffyg mwynhad o'i yrru, ond canmolwyd fod y raddfa milltir y galwyn yn eitha uchel. Roedd y fersiwn 'Active' yn gwerthu am £23,295 yng ngwledydd Prydain a'r fersiwn Excel yn gwerthu am £27,450.

Ym 1997 y gwerthwyd ef yn gyntaf, a hynny yn Japan, a'r Prius oedd y cerbyd heibrid cyntaf i gael ei fasgynhyrchu ac yn 2000 ehangwyd y gwerthiant i'r byd mawr crwn.[5] Ym Mai 2008, cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig pan werthwyd miliwn (1,000,000) o'r ceir[6], dwy filiwn erbyn Medi 2010,[7] a thair milwin erbyn Mehefin 2013.[8] Erbyn diwedd 2012 roedd yn cael ei werthu mewn 80 o wledydd: Japan ac UDA yn bennaf.[7]

Ledled y byd, erbyn Mai 2008 roedd miliwn o'r ceir 'Toyota Prius c' wedi'u gwerthu ar gyfer y farchnad ddomestig (hy nid busnes), 2 filiwn ym Medi 2010 ac roedd 3 miliwn wedi'u gwerthu erbyn Mehefin 2013.[9]

  1. Woodyard, Chris (2011-02-20). "Voters decide Toyota Prii is now official plural for Prius". USA Today. Cyrchwyd 2012-02-08. Italic or bold markup not allowed in: |newspaper= (help)
  2. "2008 Toyota Prius" (Press release). Hybridcar.com. 2007-10-21. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2010-09-26. https://web.archive.org/web/20100926191928/http://hybridcar.com/index.php?option=com_content&task=view&id=521&Itemid=103. Adalwyd 2011-11-30.
  3. Ffigyrau profi'r EPA 5-cycle; mewn dinas.
  4. Gweler Top Gear: New Car Buyers Gide; tud. 278.
  5. Toyota (2012-05-22). "Worldwide sales of Toyota Motor hybrids top 4M units; Prius family accounts for almost 72%". Green Car Congress. Cyrchwyd 2012-05-22. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  6. "Toyota tops 2 million hybrid sales worldwide" (Press release). AutobloGreen. 2009-09-04. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2019-07-05. https://web.archive.org/web/20190705172705/http://green.autoblog.com/2009/09/04/toyota-tops-2-million-hybrid-sales-worldwide/. Adalwyd 2009-10-24.
  7. 7.0 7.1 "Worldwide Prius Cumulative Sales Top 2M Mark; Toyota Reportedly Plans Two New Prius Variants for the US By End of 2012". Green Car Congress. 2010-10-07. Cyrchwyd 2010-10-07. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  8. Toyota Europe News (2013-07-03). "Worldwide Prius sales top 3-million mark; Prius family sales at 3.4 million". Green Car Congress. Cyrchwyd 2013-07-03. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  9. Sales of the Prius family (all figures in thousands) as of Gorffennaf 2015 consist of: 3,527.1 Prius liftbacks, 1,081.2 Prius c/Aqua, 582.4 Prius v/α/+ and 73.6 Prius PHVs.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne