Traethawd hir a gyflwynir fel rhan o radd academaidd yw traethawd ymchwil, thesis (lluosog: thesisau neu theses),[1] traethawd estynedig, neu draethawd doethurol. Ymdriniaeth gan yr awdur o bwnc penodol yw hi, sy'n cyflwyno ymchwil, darganfyddiadau a chasgliadau. Mae ei strwythur a chynnwys yn amrywio yn ôl sefydliad addysg, ond yn aml maent yn cynnwys crynodeb, adolygiad llenyddol, a llyfryddiaeth yn ogystal â phrif gorff y gwaith. Mae'n rhaid i rai myfyrwyr gwblhau cynnig ymchwil cyn cyflwyno eu traethawd ymchwil.
Mae defnydd y termau amrywiol am y math hwn o waith yn amrywio yn ôl gwlad. Mewn prifysgolion y Deyrnas Unedig, cyflwynir traethawd hir neu draethawd estynedig (Saesneg: dissertation) fel rhan o radd israddedig neu weithiau gradd meistr ddysgedig, a chyflwynir traethawd ymchwil neu thesis fel rhan o radd meistr ymchwil neu ddoethuriaeth (a elwir weithiau yn draethawd doethurol yn achos doethuriaeth).