Traffordd yr M2

traffordd M2
Mathtraffordd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1963 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaint Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.3353°N 0.6479°E Edit this on Wikidata
Hyd41.4 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Traffordd yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, yw'r M2. Mae'n cychwyn ger tref Strood ar gyrion de-ddwyreiniol Llundain ac yn ymestyn i gyfeiriad dwyreiniol am bellter o tua 26 milltir (42 km). Mae'n gorffen ger tref Faversham i'r gorllewin o Gaergaint.

Agorwyd y rhan gyntaf (cyffyrdd 2 i 5) ar 29 Mai 1963 gan y Gweinidog Trafnidiaeth Ernest Marples. Agorwyd yr adrannau eraill (cyffyrdd 1 i 2 a 5 i 7) yn 1965.

Ar un adeg ystyriwyd ymestyn yr M2 i Lundain yn y gorllewin a Dover yn y dwyrain. Fodd bynnag, oherwydd diffyg traffig, ni ddaeth y prosiect i ffrwyth. Mewn gwirionedd mae traffordd yr M20, sy'n mynd ymhellach i'r de, yn darparu llwybr mwy uniongyrchol o Lundain i Dover.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne