![]() | |||||
Tren newydd yn depo Y Barri cyn mynd ar hyd Llinell y Cymoedd | |||||
Gorolwg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Masnachfraint | |||||
Prif Gwlad(oedd) | Cymru | ||||
Gwlad(oedd) arall | |||||
Gorsafoedd weithredir | 248 | ||||
Rhagflaenyddion | KeolisAmey Cymru | ||||
Cwmni rhiant | Trafnidiaeth Cymru | ||||
Gwefan | trctrenau.cymru | ||||
|
Mae Trafnidiaeth Cymru Trenau yn gwmni sy'n gweithredu trenau cyhoeddus Cymru, ac yn is-gwmni i Trafnidiaeth Cymru (TrC), sef cwmni sy’n perthyn i Lywodraeth Cymru.
Dechreuodd weithredu gwasanaethau dydd i ddydd Masnachfraint Cymru a’r Gororau ar 7 Chwefror 2021, fel gweithredwr gan gymryd lle KeolisAmey Cymru.[1][2]
Mae Trafnidiaeth Cymru Trenau yn rheoli 248 o orsafoedd "National Rail"[3][4] gan gynnwys pob un o’r 223 yng Nghymru[5] ac yn gweithredu’r holl wasanaethau prif reilffordd i deithwyr yn gyfan gwbl yng Nghymru, ac yn gwasanaethau o Gymru, Caer, Amwythig i Lerpwl, Manceinion, Maes Awyr Manceinion, Crewe, Birmingham, Bidston a Cheltenham.