Mae Tramwy'r Arglwyddes Bagot ar lan orllewinol Afon Clywedog yn ymyl Rhewl.
Roedd y Teulu Bagot yn berchnogion ystâd Pool Parc yn ystod y 19eg a'r 20g. Roedd yr Arglwyddes Bagot yn hoff iawn o Ddyffryn Clwyd, felly fe greoedd yr Arglwydd Bagot lwybr cerbydau iddi.
Gellir cerdded y llwybr heddiw. Mae'r dreif yn bwysig am ei geoamrywiaeth. Ffurfiwyd y creigiau mewn cefnfor dwfn rhyw 420 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Gellir dod o hyd i ffosiliau creaduriaid y môr o dro i dro.[1]