Tramwyfa'r Gogledd Ddwyrain

Tramwyfa'r Gogledd Ddwyrain
Mathsea lane Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCylch yr Arctig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolNorth-East and North-West Passages Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau85.679697°N 135.647892°E Edit this on Wikidata
Map

Môr-lwybr drwy dyfroedd Arctig Gogledd Ewrop ac Asia yw Tramwyfa'r Gogledd Ddwyrain sy'n ffordd o deithio o Gefnfor yr Iwerydd i'r Cefnfor Tawel, a hynny drwy Gefnfor yr Arctig. Yn ystod Oes y Darganfod, ymdrechodd nifer o fforwyr Ewropeaidd ganfod llwybrau i fordeithio o Ewrop i'r Dwyrain Pell. Y prif ffyrdd o wneud hyn oedd ym moroedd hemisffer y de, naill ai hwylio o gwmpas pen deheuol yr Amerig, drwy Gulfor Magellan neu rownd yr Horn, neu deithio i'r dwyrain o amgylch Penrhyn Gobaith De yn Ne'r Affrig ac ar draws Cefnfor India. O'r 15g hyd at y 19g, lansiwyd nifer o fordeithiau mewn ymgais i ddarganfod Tramwyfa'r Gogledd Ddwyrain yn ogystal â Thramwyfa'r Gogledd Orllewin, i ogledd Canada ac Alaska. Roedd y chwilfa am y tramwyfeydd gogleddol yn anos na fforiadau i'r cefnforoedd deheuol oherwydd caledni'r hinsawdd a pheryglon fordwyo'r dyfroedd rhewedig.

Morwyr o'r Iseldiroedd, Lloegr, a Rwsia oedd y prif fforwyr a cheisiodd ganfod môr-lwybr i ogledd Llychlyn a thrwy'r dyfroedd ar hyd arfordiroedd gogleddol Rwsia a Siberia. Ymhlith y cyntaf i fentro oedd Willem Barentz yn y 1590au ac Henry Hudson yn nechrau'r 17g. Yn sgil dirywiad grym masnachol yr Iseldirwyr ar y môr yn y 18g, y Rwsiaid a fu'n arwain y chwilfa. Cafodd rhan fawr o ardal ddwyreiniol y dramwyfa, rhwng Gorynys Kamchatka ac Alaska, ei fapio gan Vitus Bering, swyddog Danaidd yn Llynges Rwsia. Archwiliwyd arfordiroedd gogledd Siberia gan Ymdaith Fawr Gogledd Rwsia yn 1733–43. Er ymdrechion y Rwsiaid, y daearegwr Ffinnaidd-Swedaidd Adolf Erik Nordenskiöld oedd y cyntaf i gyflawni'r fordaith, a hynny yn 1878–80 ar yr SS Vega.[1]

Yn nechrau'r 20g, dechreuodd llongau torri rhew groesi'r dramwyfa. Yn y 1930au sefydlwyd llwybr i longau masnachol a chychwynnodd yr Undeb Sofietaidd ar ddatblygu porthladdoedd a diwydiannau cynradd, megis echdynnu mwynau a thorri coed, yn nhiroedd y dwyrain. Cedwir y môr-lwybr yn fordwyadwy yn yr haf a thymor yr hydref gan lynges o longau torri rhew gyda chymorth awyrennau rhagchwilio a gorsafoedd tywydd. O ganlyniad i gynhesu byd-eang a thoddiad y capan rhew, mae mwy o longau yn gallu croesi'r dramwyfa ac ar hyd lwybrau byrrach hefyd.

  1. (Saesneg) Northeast Passage. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Awst 2019.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne