![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.853°N 3.957°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghymuned Dyffryn Cennen, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw'r Trap (weithiau Trapp). Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y sir tua 6 milltir i'r de o dref Llandeilo a thua'r un pellter i'r gogledd-ddwyrain o dref Llandybie.
Gorwedd y pentref wrth odrau gorllewinol y Mynydd Du ac ar ymyl ffin orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Llandeilo Fawr. Y pentref agosaf yw Blaengweche.