![]() | |
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,511 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.283°N 4.617°W, 53.290714°N 4.64211°W ![]() |
Cod SYG | W04000874 ![]() |
Cod OS | SH2399180340 ![]() |
Cod post | LL65 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref a chymuned ar arfordir gorllewinol Ynys Cybi, Ynys Môn, yw Trearddur, weithiau Bae Trearddur ( ynganiad ) (Saesneg: Trearddur Bay). Saif ar y ffordd B4545 rhwng Y Fali a Chaergybi. Mae na ddwy siop yma yng nghalon y pentref, modurdy, a dau glwb golff (un 18 twll ac un 9 twll).
Pentref gwyliau yw Trearddur yn bennaf erbyn hyn, fel mae ffigurau'r Cyfrifiad (isod) yn dangos; mae ganddo draeth tywodlyd a nifer o westai (gan gynnwys Gwesty Bae Trearddur, yng ngolwg y môr), tafarnau, bwytai a siopau. Mae Clwb Golff Caergybi gerllaw, a gellir dilyn Llwybr yr Arfordir i'r de i Roscolyn ac i'r gogledd i Ynys Lawd. Mae yna ddau draeth: Bae Trearddur ei hun a Phorth Dafarch, a rhyngddyn nhw mae yna le addas ar gyfer plymio sgwba. Mae yna farchogaeth ceffylau gerllaw, a thripiau neu wibdeithiau a physgota môr.
Ar fin y traeth ceir llecyn chwarae pêl-droed ble mae'r tîm lleol yn chwarae.