![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.2967°N 4.0469°W ![]() |
Cod OS | SN605685 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghanolbarth Ceredigion yw Trefenter.[1] Saif i'r de o bentref Llangwyryfon, ychydig i'r dwyrain o'r ffordd B4576 ac i'r gorllewin o'r briffordd A485. I'r de-ddwyrain o'r pentref mae llethrau Y Mynydd Bach, ac i'r de mae Llyn Eiddwen.
Ceir yma olion safle amlffosog o'r Canol Oesoedd, sef Ffos Trefenter, sy’n heneb gofrestredig.
Yn yr ardal yma y bu'r hyn a elwir yn Rhyfel y Sais Bach yn 1819, pan brynodd Sais o'r enw Augustus Brackenbury stad yno a dechrau cau'r tiroedd comin. Bu gwrthwynebiad cryf gan y trigolion lleol, a llosgwyd dau dŷ a adeiladwyd gan Brackenbury. Adeiladodd drydydd tŷ a rhoi'r enw "Cofadail Heddwch" arno. Yn fuan wedyn, gadawodd yr ardal.
Codwyd Ysgol breswyl Cofadail yn y pentref yn 1877 gyda lle i dros gant o ddisgyblion. Ar y Mynydd Bach, mae cofeb i bedwar bardd o'r ardal: T. Hughes Jones, B.T. Hopkins, J. M. Edwards ac Edward Prosser Rhys.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]