![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,771, 1,774 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,616.08 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.4°N 4°W ![]() |
Cod SYG | W04000400 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Cymuned yng ngogledd Ceredigion yw Trefeurig. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Aberystwyth. Mae'r gymuned yn cynnwys pentref Penrhyn-coch, sydd i bob pwrpas yn un o faesdrefi Aberystwyth. Yma mae Brogynin, lle dywedir i'r bardd Dafydd ap Gwilym gael ei eni, a phlasdy Gogerddan, sydd nawr yn gartref i IBERS (Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig). Ceir nifer o hen fwyngloddiau plwm yma hefyd. Yn ogystal â bod yn gymuned mae Trefeurig yn blwyf eglwysig hanesyddol. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,675. Mae'n ffinio Coedwig Bwlch Nant yr Arian.