Math | pentrefan |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ilan |
Cysylltir gyda | Ilan |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.194788°N 4.124305°W |
Cod OS | SN549571 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Pentref bychan gwledig yn ne canolbarth Ceredigion yw Trefilan.[1] Mae'n gorwedd ar lan ogleddol afon Aeron tua 7 milltir i'r dwyrain o Aberaeron, ar yr hen ffordd rhwng Llanrhystud i'r gogledd a Llanbedr Pont Steffan i'r de-ddwyrain. Mae'n bosibl fod yr enw'n cysylltu gyda Sant Ilan, sefydlydd Eglwys Ilan ym Morgannwg, ond cysegrwyd yr eglwys i Sant Cyngar.
Ger ysgol y pentref (a gaewyd ym mis Gorffennaf 2014), ceir safle Castell Trefilan, castell mwnt a beili a godwyd gan dywysogion Deheubarth yn y 1230au.
Tua milltir i'r de o Drefilan ceir safle tybiedig lleiandy Sistersaidd Llanllŷr.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]