Math | dinas, bwrdeistref, dinas fawr ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC−03:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rawson Department ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 249 km² ![]() |
Uwch y môr | 11 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 43.2533°S 65.3094°W ![]() |
Cod post | U9100 ![]() |
![]() | |
Dinas yng ngogledd-ddwyrain Talaith Chubut, yr Ariannin, yw Trelew. Saif y ddinas ar Afon Camwy (Río Chubut), tua 25 km o'r môr, a 17 km o Rawson, prifddinas y dalaith. Enwyd y dref ar ôl Lewis Jones.
Tyfodd y ddinas pan agorwyd Rheilffordd Ganolog Chubut i gysylltu rhan isaf Dyffryn Camwy a phorthladd Porth Madryn. Trelew oedd pen draw'r rheilffordd yn Nyffryn Camwy pan agorwyd hi yn 1888, er iddi gael ei hymestyn yn ddiweddarach.
Mae gan Trelew boblogaeth o bron i 100,000, ond mae'r ddinas yn dioddef diweithdra mawr ers yr argyfwng economaidd yn 2000 ac mae llawer o bobol wedi symud i ffwrdd.
Maes awyr Trelew yw canolbwynt rhwydwaith trafnidiaeth canol Patagonia.