Trevelin

Trevelin
Mathbwrdeistref Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,353 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1888 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFutaleufú Department Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Uwch y môr385 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.08°S 71.47°W Edit this on Wikidata
Cod postU9203 Edit this on Wikidata
Map

Tref yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin, yw Trevelin (weithiau Trefelín). Mae ganddi boblogaeth o tua 5,000 Mae'r enw yn deillio o'r felin gyntaf o'r enw "Los Andes" a sefydlwyd gan John Daniel Evans yn 1889.

Trevelin oedd canolbwynt y gwladychiad Cymreig yng Nghwm Hyfryd. Enw Sbaeneg yr ardal yw Valle 16 de Octubre, gan iddo gael ei sefydlu ar 16 Hydref 1888. Yn 1902, yn dilyn anghydfod rhwng Ariannin a Tsile ynghylch perchenogaeth yr ardal, pleidleisiodd disgynyddion y Cymry i fod yn rhan o'r Ariannin.

Mae Trevelín yn y rhan gwlyb o Batagonia. Ymhlith y mannau o ddiddordeb mae'r Museo Histórico Regional yn hen felin John Evans, a Museo Cartref Taid lle gellir gweld nifer o gelfi oedd yn perthyn i John Daniel Evans. Gerllaw, mae bedd ceffyl John Evans, Malacara, a achubodd ei fywyd trwy neidio i lawr dibyn serth pan ymosodwyd arno gan Indiaid.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne