Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 227,857 |
Gefeilldref/i | Larnaca, Manama |
Daearyddiaeth | |
Sir | North Governorate, Tripoli District |
Gwlad | Libanus |
Arwynebedd | 14 km² |
Uwch y môr | 222 metr |
Cyfesurynnau | 34.4367°N 35.8344°E |
Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site |
Manylion | |
Tripoli (Arabeg: طرابلس Ṭrāblos neu Ṭrēblos, yn lleol Ṭrōbles, Groeg: Τρίπολις, Tripolis) yw ail ddinas Libanus o ran poblogaeth, gyda tua 500,000 o breswylwyr. 80% o'r boblogaeth yn sunni mwslemaidd. Saif tua 85 km i'r gogledd o Beirut.
Mar Tripoli yn hen ddinas Ffenicaidd, gyda thystiolaeth am bobl yn byw ar y safle yn 1400 CC. Arferai fod yn ganolwynt cynghrair oedd yn cynnwys Tyrus, Sidon ac Arados, ac felly y cafodd ei henw, sy'n golygu "y ddinas driphlyg". Gerllaw mae dinas El Mina, sy'n cael ei chysylltu a Tripoli fel Tripoli Fwyaf.
Cipiwyd y ddinas gan y Croesgadwyr yn 1109, pan losgwyd llyfrgell enwog Tripoli, y Dar al-Ilm. Cipiwyd hi yn ôl gan fyddinoedd Islam yn 1289, a dinistrwyd hen ran y ddinas.
Dechreuodd gwrthdaro Gogledd Libanus 2007 o ganlyniad i ymladd rhwng Fatah al-Islam, mudiad milwriaethus Islamiaidd, a Lluoedd Arfog Libanus ar 20 Mai, 2007 yn Nahr al-Bared, gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd ger Tripoli.