Enghraifft o: | lleuad o'r blaned Neifion, irregular moon |
---|---|
Màs | 21.39 ±0.03 |
Dyddiad darganfod | 10 Hydref 1846 |
Yn cynnwys | Atmosphere of Triton |
Echreiddiad orbital | 0 |
Radiws | 1,353.4 ±0.9 cilometr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Triton ydy'r seithfed a'r fwyaf o loerennau Neifion.
Ym mytholeg y Groegiaid y mae Triton yn dduw môr ac yn fab i Poseidon (Neifion).
Cafodd y lloeren Triton ei darganfod gan Lassel ym 1846 dim ond ychydig wythnosau ar ôl darganfyddiad Neifion. Cafodd Triton ymweliad gan Voyager 2 ar y 25ain o Awst 1989.
Mae cylchdro Triton yn wrthdroadwy. Triton yw'r unig loeren fawr sy'n cylchdroi 'wysg ei gefn', dim ond lloerennau bach Iau (Ananke, Carme, Pasiphae a Sinope) a Phoebe (lloeren fach Sadwrn) sydd hefyd yn cylchio 'wysg ei gefn', pob un ohonynt yn llai na 1/10 tryfesur Triton. Am hynny rhaid i Driton wedi cael ei dal gan Neifion ar ôl dod o rywle arall, efallai o Wregys Kuiper. O achos natur anarferol cylchdro Triton, mae rhyngweithiadau rhwng Neifion a Thriton yn dwyn egni ymaith oddi wrth Driton gan achosi iddi ostwng ei chylchdro. Rhywdro yn y dyfodol pell bydd Triton yn cael ei chwalu ac unai'n ffurfio modrwy neu yn syrthio i mewn i Neifion.
Oherwydd ei gogwyddiad mae pegynau a chyhydedd Triton yn wynebu'r Haul bob yn ail. Mae ganddi awyrgylch tenau o nitrogen gyda methan. Mae ganddi nudd denau sy'n ymestyn 5–10 km i fyny.
Mae tymheredd arwyneb Triton yn 34.5 K (-235 C), mor oer â Plwton. Mae hynny oherwydd ei halbedo uchel (.7 - .8) sy'n golygu fod ychydig iawn o olau haul yn cael ei sugno. Yn y fath oerni mae methan, nitrogen a charbon deuocsid yn cael eu rhewi'n soled.