Cymeriad chwedlonol sy'n un o brif gymeriadau chwedl Trystan ac Esyllt ac a gysylltir a'r Brenin Arthur yw Trystan, hefyd Drystan (Ffrangeg: Tristan).
Cysylltir Trystan yn arbennig a Chernyw, ac a theyrnas Lyonesse neu Léonois. Ceir gwahanol fersiynau o'r chwedl, ond yn y fersiwn fwyaf cyffredin, roedd Trystan yn nai i Arthur. Roedd Trystan yn danfon Esyllt, merch Hywel fab Emyr Llydaw mewn rhai fersiynau, o Iwerddon i Gernyw, lle roedd i briodi'r brenin March. Yn ystod y fordaith, yfodd Trystan ag Esyllt ddiod yr oedd mam Esyllt wedi ei baratoi ar gyfer y briodas, a syrthiasant mewn cariad a'i gilydd. Wedi i'r brenin March ddarganfod hyn, mae'r cariadon yn ffoi i Fforest Broseliawnd yn Llydaw. Yn ddiweddaeach, clwyfir Trystan yn angheuol mewn brwydr yn erbyn March. Mae'n gyrru am Esyllt i'w iachau, ond erbyn iddi gyrraedd mae ef eisoes wedi marw.