Enghraifft o: | brenhingyff, teyrnach |
---|---|
Daeth i ben | 24 Mawrth 1603 |
Rhan o | Lancastriaid, Brenhinoedd a breninesau'r Deyrnas Unedig, Teyrnas Iwerddon, Brenhinoedd Ffrainc, Arglwydd Raglaw yr Iwerddon |
Dechrau/Sefydlu | 22 Awst 1485 |
Yn cynnwys | yr Arglwyddes Jane Grey, Harri VIII, Mari I, Elisabeth I, Edward VI, Harri VII |
Sylfaenydd | Harri VII |
Rhagflaenydd | Llinach y Plantagenet |
Olynydd | y Stiwartiaid |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr, Teyrnas Iwerddon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
HWB | |
Y Tuduriaid | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Teulu brenhinol ar orsedd Lloegr oedd y Tuduriaid, oedd â'i wreiddiau ymysg rhai o deuluoedd pwysicaf gogledd Cymru. Roedd y teulu yn olrhain ei hach yn y llinell wrywaidd i'r Cymro enwog Ednyfed Fychan, a fu farw yn 1246. Mae oes y Tuduriaid yn dechrau yn 1485 gyda chipio coron Lloegr gan Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth ac yn dod i ben gyda marwolaeth Elisabeth I, brenhines Lloegr yn 1603. Rhagflaenwyd y Tuduriaid gan deulu’r Plantagenet fel brenhinoedd Lloegr ac olynwyd hwy gan deulu’r Stiwartiaid ar ôl 1603.
Rheolodd teulu’r Tuduriaid yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf pwysig a chyfnewidiol yn hanes gwledydd Prydain. Roedd yn gyfnod pan fu llawer o newidiadau gwleidyddol, economaidd, crefyddol, cymdeithasol a diwylliannol yn y deyrnas.