Eglwys Cwyfan Sant | |
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 970, 883 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,553.36 ha |
Cyfesurynnau | 52.899°N 4.62°W |
Cod SYG | W04000101 |
Cod OS | SH237367 |
Cod post | LL53 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Pentref bychan a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Tudweiliog[1][2] ( ynganiad ). Saif ar arfordir ogleddol Penrhyn Llŷn.
Deallir fod y pentref wedi ei enwi ar ôl Tudwal, sant o Lydaw a fu farw oddeutu'r flwyddyn 564. Mae damcaniaeth fod yr enw Tudwal (neu 'Dathyl', gweler "Caer Dathyl" ym Mhedwaredd Cainc y Mabinogi) wedi tarddu o'r Gaeleg Tuathal (Lladin Toutovalus, "Rheolwr/Tywysog y Bobl").[3] Y Tuathal mwyaf cydnabuddus oedd brenin chwedlonol Gwyddelig o'r un enw o'r ganrif 1af Túathal Techtmar, a alltudiodd i Brydain cyn dychwelyd ugain mlynedd yn ddiweddarach i deyrnasu tros Iwerddon. Mae hen ardal gyfagos o'r enw Llandudwen wedi ei enwi'n ôl Tudwen Sant, yn Ninas, Llŷn. Hefyd mae son mai enw gwreiddiol y pentref oedd "Bydwaliog".
Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg fel mamiaith. Mae amaethyddiaeth yn rhan hanfodol o fywyd dyddiol y gymuned gyda thwristiaeth yn bwysig drwy'r haf. Mae i'r pentref un siop/Swyddfa'r Post, canolfan cymuned (Sef Y Ganolfan a arferai fod yn ysgol), tŷ tafarn, gefail, a busnesau newydd llewyrchus lleol megis Hen Siop Y Crydd a Cwt Tatws. Mae yma hefyd eglwys, - y ffurf bresennol a'i hadeiladwyd yn 1850 gan y pensaer enwog George Gilbert Scott, sydd wedi ei chysegru i Sant Cwyfan, disgybl i Beuno Sant [4], ar ôl Saint Kevin o'r 6g o Glean Dá Loch, yn Sir Mhantáin, Iwerddon, capel Methodistaidd (a Chapel Berseba, sydd rŵan yn anheddau) a'r ysgol gynradd (presennol) a ddathlodd ei chanmlwyddiant yn 2007. Mae gwasanaeth bws lleol yn gludiant cyhoeddus (pob 2 awr) rhwng Tudweiliog (a phentrefi eraill ar hyd y ffordd) a Phwllheli, sef cymuned mwyaf poblog Llŷn tua 10 milltir i ffwrdd. Mae Tudweiliog yn gyngor cymuned o fewn sir Gwynedd, ac o fewn dalgylch y gymuned mae atyniadau megis Coetan Arthur/Cromlech Cefnamwlch (SH 229345) (cromlech/Siambr gladdu Cefnamwlch) ar lethr Mynydd Cefnamwlch, - dyma ychydig o wybodaeth am darddiad y gromlech a'i hanes;
"....Yn ôl hanes, cludwyd y cerrig wyth milltir i ffwrdd o Fynyddoedd yr Eifl, ac mae traddodiad bod un o 'r brenhinoedd Cymreig wedi ei gladdu oddi tanynt."[5]
- Coetan Arthur, Cefnamwlch
Dywed traddodiad i Arthur luchio'r penllech, y 'goeten', o ben Garn Fadrun i Fynydd Cefnamwlch a bod ei wraig wedi cario'r tair carreg yno yn ei barclod a'u gosod ar eu pennau i ddal y garreg fawr." [6]
Hefyd mae olion cymuned o Oes yr Haearn ar gopa fynydd Carn Fadryn, traethau tywodlyd Tywyn a Phenllech a phorthladdoedd hanesyddol Porth Ysgaden, a Porth Colmon yn Llangwnnadl (hefyd Llangwnadl), a Phorth Gwylan ym Mhenllech sydd dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.