Lle gwag mewn rhywbeth solet neu agorfa ydy twll. Ceir tyllau mewn amryw o bethau a llefydd:
- Gwneir twll yn y pridd er mwyn plannu planhigyn.
- Ceir tyllau mewn dillad, weithiau'n fwriadol ac weithiau wrth i'r brethyn dreulio; a cheir dywediad "gwell clwt na thwll". 'Twll botwm' i ddal botwm.
- Mae rhai cenhedloedd yn goddef tyllau yn y croen, gyda phin neu erfyn o ryw fath yn cael ei arddangos drwy'r twll.
- Ceir tyllau naturiol hefyd yn y corff megis y twll tin. Mae hyn yn sail i sawl ddywediad difrïol, e.e. "Twll dy din di, Ffaro!". 'Twll tin byd', back of beyond.
- Twll du, mewn seryddiaeth.
- Twll Du Calcutta
- Y gair Llydaweg am dwll ydy "toull" ac fe ddefnyddir y gair hwn hefyd yn y Llydaweg am wain merch.
- Yng Nghaernarfon ceir tafarn o'r enw "Twll yn Wal" a dywedir hyn hefyd ar lafar i ddisgrifio peiriant arian mewn wal banc.
- Mewn golff ceir tyllau yn y cae i daro'r bêl iddynt; pan fo rhywun yn taro'r bêl i'r twll gydag un ergyd fe'i gelwir yn "twll mewn un".
- Gelwir twll dwfn mewn mynydd neu glogwyn yn ogof.
- 'Twll cath' i adael cath trwy ddrws.
- 'Twll o le' am rywle annymunol neu ddiflas.
- 'Twll dan grisiau', ar lafar yn y Gogledd am fath o gwpwrdd dan grisiau.
Pan deipir "twll" i mewn i Google, dyma'r rhestr cyfoes (Medi 2010) o'u hawgrymiadau [1], seiliedig ar y pethau mae pobl wedi chwilio amdanynt yn y gorffennol:
- twll dîn pob sais
- twll clawdd
- twll du
- twll dyn pob saes
- twll tin pob sais
- twll din
- twll y corryn
- twll clawdd caravan site
- twll dyn bob sais
- twll tin