Math | twnnel ffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1980 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | E35 |
Lleoliad | Y Swistir |
Sir | Uri, Ticino |
Gwlad | Y Swistir |
Cyfesurynnau | 46.6717°N 8.5925°E |
Hyd | 16,900 metr |
Rheolir gan | Uri |
Perchnogaeth | Y Swistir |
Twnnel ffordd yn y Swistir yw Twnnel Ffordd Sant Gotthard. Fe'i hadeiladwyd rhwng 1970 a 1980, ac mae'n cysylltu pentrefi Göschenen yng Nghanton Uri gydag Airolo yng Nghanton Ticino. Fe'i hagorwyd ar 5 Medi 1980, pan dorrwyd y rhuban gan y Cynghorydd Ffederal Hans Hürlimann. Mae'n 16.4 km (10.2 milltir) mewn hyd ac yn mynd o dan Bwlch Sant Gotthard yn yr Alpau. Dyma drydydd twnnel hiraf y byd: ar ôl Twnnel Lærdal (24.5 km) yn Norwy a Thwnnel Zhongnanshan (18 km) yn Tsieina.[1] Mae'r twnnel ffordd yn cyd-fynd gyda'r Twnnel Rheilffordd Gottard a'r twnnel newydd, Twnnel Rheilffordd Sylfaen Gottard.