Enghraifft o: | swydd ![]() |
---|---|
Math | twrnai cyffredinol ![]() |
Rhan o | Cabinet yr Unol Daleithiau ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 26 Medi 1789 ![]() |
Deiliad presennol | Pam Bondi ![]() |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Enw brodorol | United States Attorney General ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Gwefan | https://www.justice.gov/ag ![]() |
![]() |
Mae'r Twrnai Cyffredinol yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Attorney General) yn bennaeth ar Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau.
Mae'r Twrnai Cyffredinol yn gyfrifol am faterion cyfreithiol, yn ogystal â bod yn brif swyddog gorfodi'r gyfraith a phrif gyfreithiwr i lywodraeth yr Unol Daleithiau. Mae hefyd yn gyfrifol am benderfyniadau sy'n ymwneud â'r gosb eithaf ffederal.
Penodir y Twrnai Cyffredinol gan Arlywydd yr Unol Daleithiau a chaiff dechrau ar ei swydd wedi cadarnhad gan Senedd yr Unol Daleithiau. Mae deiliad y swydd yn ddarostyngedig i'w ddiswyddo gan yr Arlywydd a'i uchelgyhuddo gan y Gyngres.
Y Twrnai Cyffredinol presennol yw Monty Wilkinson, yn ei swydd ers 20 Ionawr 2021. Mae'r Twrnai Cyffredinol yn aelod o'r Cabinet ac yn seithfed yn yr olyniaeth i'r arlywyddiaeth.