Tyler, The Creator | |
---|---|
Tyler, The Creator | |
Y Cefndir | |
Enw (ar enedigaeth) | Tyler Gregory Okonma |
Llysenw/au |
|
Ganwyd | Ladera Heights, California, Unol Daleithiau | 6 Mawrth 1991
Tarddiad | Ladera Heights, California, Unol Daleithiau[2] |
Math o Gerddoriaeth | Hip hop |
Gwaith | |
Offeryn/nau | |
Cyfnod perfformio | 2007–presennol |
Label |
|
Perff'au eraill | |
Gwefan | oddfuture.com |
Mae Tyler Gregory Okonma[6] (ganwyd 6 Mawrth 1991), yn cael ei adnabod yn well gan ei lysenw Tyler, The Creator, yn rapiwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr fideo o'r Unol Daleithiau. Fe'i ganed yn Ladera Heights, California, a daeth yn enwog fel arweinydd a chyd-sefydlwr y grŵp hip hop Odd Future. Mae wedi rapio a chynhyrchu popeth maent wedi eu rhyddhau.[7] Okonma sydd yn creu'r gwaith celf ar gyfer y grŵp - fe hefyd sy'n arlunio cynnyrch a dillad y grŵp.
Yn dilyn rhyddhau Goblin gyda XL Recordings, yn Ebrill 2011, rhyddhaodd ei ail albwm stiwdio Wolf, yn 2013. Derbyniodd yr albwm adolygiadau da yn gyffredinol a chychwynodd ar rif tri ar y Billboard 200 yn yr UDA. Gwerthodd 90,000 copi yn ei wythnos gyntaf. Mae ganddo ei gwmni dillad ei hun, sef Golf Wang, a sefydlwyd yn 2011, a charnifal o'r enw 'Camp Flog Gnaw'. Cynhaliwyd y carnifal yn flynyddol ers 2012.