Tyrau Genoa yng Nghorsica

Tyrau Genoa yng Nghorsica
Daearyddiaeth
Tŵr Genoa ar y Capu di Maru

Mae Tyrau Genoa yng Nghorsica (Ffrangeg Tours génoises de Corse, Corseg Torri ghjinuvesi di a Corsica) yn gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan y môr-ladron Barbari.

Roedd Corsica wedi cael ei reoli gan Genoa ers 1284 wedi iddynt sefydlu eu goruchafiaeth dros Weriniaeth Pisa yn y frwydr forol, Brwydr Meloria. Tua diwedd y 15g, roedd  Ymerodraeth yr Otomaniaid yn ehangu ei reolaeth o'r môr Canoldir i'r gorllewin, a daeth yn rym morwrol amlwg yn y rhanbarth. Ym 1480 gwnaethant anrheithio Otranto yn ne'r Eidal ac ym 1516 bu iddynt drechu a dechrau rheoli Alger. Yn negawdau cyntaf y 16 ganrif dechreuodd corsairs Twrcaidd ymosod ar bentrefi o amgylch arfordir Corsica. Cafodd llawer o gannoedd o bentrefwyr eu cipio i gael eu gwerthu fel caethweision. Bu i Weriniaeth Genoa ymateb drwy adeiladu cyfres o dyrau o amgylch yr arfordir. Roedd y rhan fwyaf yn cael eu cynllunio ar ffurf gron gyda theras to wedi ei amddiffyn gyda rhyngdyllau (tyllau i daflu pethau megis cerrig, olew berw ac ati ar ben ymosodwr). Cafodd bron i gant eu hadeiladu cyn i Genoa penderfynu tua 1620 nad oeddynt yn llwyddo i amddiffyn yr ynys a rhoi'r gorau i'r rhaglen adeiladu.

Ym 1794, yn ystod Rhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc, methodd llynges Prydain i gipio tŵr Genoa ger y Punta Mortella, un o'r ddau dŵr oedd yn warchod y fynedfa i borthladd Saint-Florent. Wedi i effeithiolrwydd a dylunio syml y tŵr creu argraff arnynt, penderfynodd gweinyddiaeth amddiffyn Prydain i godi llawer o adeiladau tebyg ar arfordiroedd Prydain gan eu galw'n Dyrau Martello.

Mae adfeilion y tyrau Genoa bellach yn nodwedd amlwg o arfordir Corsica. Mae llawer wedi cael eu rhestru'n swyddogol fel Henebion Hanesyddol gan Weinyddiaeth Diwylliant Ffrainc.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne