Turmeric | |
---|---|
Curcuma longa | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
Ddim wedi'i restru: | Monocots |
Ddim wedi'i restru: | Commelinids |
Urdd: | Zingiberales |
Teulu: | Zingiberaceae |
Genws: | Curcuma |
Rhywogaeth: | C. longa |
Enw deuenwol | |
Curcuma longa L.[1] | |
Cyfystyron | |
Curcurma domestica Valeton |
Blodyn parhaol sy'n perthyn i deulu'r Zingiberaceae (neu 'sinsir') ydy tyrmerig (hefyd twrmeric ac ati) (Lladin: Curcuma longa)[2] sy'n rhisomaidd, yn sbeis rhinweddol, bwytadwy.[3] Mae'n frodorol o India, ac mae angen tymheredd o rhwng 20 a 30 °C (68 and 86 °F) a chryn dipyn o law iddo dyfu ar ei orau.[4] Caiff y planhigyn ei gynhaeafu'n flynyddol er mwyn trawsblannu rhai o'u rhisomau ar gyfer y flwyddyn dilynol.
Defnyddir tyrmerig i goginio, pan fo'n ffres; fel arall mae'n rhaid berwi'r rhisomau am 30-45 munud a'u sychu mewn popty cynnes,[5] ac yna cant eu malu mewn melin fechan yn bowdwr melyn-oren cryf. Defnyddir y powdwr mewn coginio Indiaidd, yn enwedig mewn cyri neu i lifo dillad neu roi lliw i fwstad. Mae tyrmerig yn cynnwys curcwmin, sy'n rhoi iddo ei flas chwerw a'i ogla cryf: ychydig yn boeth fel pupur ac arogl fel mwstad.
India yw'r prif wlad lle cynhyrchir tyrmerig,[6] a cheir sawl enw amdano drwy'r wlad.