Uchafbwynt Rhewlifiant Diwethaf (Saesneg: Last Glacial Maximum; LGM) oedd y cyfnod diwethaf yn hanes hinsawdd y Ddaear yn yr Oes Iâ cyfredol pan oedd llenni iâ yn eu hanterth.
Cynyddodd y llenni iâ i'w huchafbwynt 26,500 o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Dechreuodd y broses o'u meirioli - yn Hemisffer y Gogledd - oddeutu 19,000 CP ac yn Antartica - 14,000 CP.[1] Ar yr adeg hon, gwelwyd llenni enfawr o rew yn gorchuddio llawer o Ogledd America, gogledd Ewrop ac Asia. Cafodd y llenni iâ hyn effaith ysgytwol ar hinsawdd y Ddaear gan achosi sychder, diffeithdiro a gostyngiad sylweddol yn lefel y môr.[2] Fe'i dilynwyd gan y cyfnod a elwir yn 'Uchafbwynt Rhewlifiant Hwyr'.