Undeb tollau

     Undeb Tollau'r Undeb Ewropeaidd     Undeb Tollau Ewrasia     Cymuned Dwyrain Affrica     Undeb Economaidd ac Ariannol Gorllewin Affrica     Undeb Tollau De Affrica     Cymuned Economaidd ac Ariannol Canolbarth Affrica     Mercosur     Cymuned yr Andes     Cymuned y Caribî     Masnach Gyffredin Canolbarth America     Cyngor Cydweithrediad y Gwlff     Y Swistir–Liechtenstein

Bloc masnach yw undeb tollau sydd yn cyfuno ardal masnach rydd a tholl allanol gyffredin. Trwy ffurfio undeb tollau, mae gwladwriaethau yn cytuno i gael gwared ar dariffau ar nwyddau ei gilydd ac i godi tariffau cyffredin ar bob un o economïau eraill y byd. Gellir ei ystyried yn ffurf ar integreiddio economaidd sydd yn fwy nag ardal masnach rydd arferol, ond heb y mudiad rhydd i gyfalaf a llafur sydd yn nodi marchnad gyffredin.[1]

Prif fantais undeb tollau yw'r ffaith bod y doll allanol gyffredin yn atal mewnforion rhag symud i gyd i'r aelod-wladwriaethau a chanddynt y tollau isaf, sefyllfa sy'n tueddu i danseilio'r ardal masnach rydd gyffredinol. Er bod yr undeb tollau a'r ardal masnach rydd ill dau yn groes i'r egwyddor o anffafriaeth yn y gyfundrefn masnach ryngwladol, caniateir y ddwy system gan y GATT, rhagflaenydd Sefydliad Masnach y Byd.

  1. (Saesneg) Customs union. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Gorffennaf 2018.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne