![]() | |
Enghraifft o: | gwobr militaraidd, gwobr am ddewrder ![]() |
---|---|
Label brodorol | Distinguished Service Order ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 6 Medi 1886 ![]() |
Sylfaenydd | Fictoria, brenhines y Deyrnas Unedig ![]() |
Enw brodorol | Distinguished Service Order ![]() |
![]() |
Addurniad milwrol a wobrwyir i swyddog y Lluoedd Arfog Prydeinig am "wasanaethau nodedig yn ystod ymgyrchoedd yn y gad yn erbyn y gelyn"[1] yw'r Urdd Gwasanaeth Nodedig[2] (Saesneg: Distinguished Service Order; DSO).
Cychwynnodd ym 1886 dan y Frenhines Fictoria.[3] Ei nod oedd i greu addurniad i wobrwyo swyddogion ieuaf y Fyddin am wasanaeth nodedig a dewrder. Roedd modd i swyddogion hŷn y Fyddin ennill Urdd y Baddon, a'r Fedal Ymddygiad Nodedig oedd ar gael i'r rhengoedd is, ond nid oedd addurniad perthnasol ar gyfer swyddogion ieuaf ac eithrio Croes Fictoria. Yn hwyrach roedd y DSO hefyd ar gael i swyddogion is y Llynges Frenhinol, y Môr-filwyr Brenhinol a'r Awyrlu Brenhinol. Ers 1993, ni roddir y DSO bellach am ddewrder, ac yn ei lle mae'r Groes Dewrder Nodedig sydd ar gael i bob rheng ym mhob adran o'r lluoedd arfog. Nid oes cyfyngiadau swyddogol wrth wobrwyo'r DSO heddiw, ond gan amlaf fe'i rhoddir i swyddogion hŷn yn unig.[4] Mae hawl gan y rhai sydd wedi derbyn yr urdd i ddodi'r llythrennau DSO ar ddiwedd eu henwau. Mae modd i swyddogion o luoedd tramor i dderbyn yr urdd fel "aelodau anrhydeddus".[3]
Croes aur, ag ochrau crymion iddi, a gorchudd enamel gwyn yw medal yr urdd. Coronbleth lawryf, mewn enamel gwyrdd, o gwmpas y Goron Ymerodrol mewn aur, ar gefndir coch, sydd ar wyneb blaen y fedal. Ar y tu chwith i'r fedal mae coronbleth lawryf sy'n amgylchynu'r llythyrbleth VRI. Addurnir y barrau ar naill ochr y rhuban gan ddail llawryf. Lliw rhuddgoch yw'r rhuban, a stribedi glas ar ei ochrau. Ceir bar aur gyda'r Goron arni a roddir fel clesbyn i wobrwyo'r rhai sydd ganddynt DSO yn barod unwaith eto am wasanaeth nodedig.[4]