![]() | |
Enghraifft o: | brawdoliaeth, sefydliad crefyddol ![]() |
---|---|
Idioleg | Teyrngaredd Wlster ![]() |
Label brodorol | Loyal Orange Institution ![]() |
Crefydd | Protestaniaeth ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 21 Medi 1795 ![]() |
Olynwyd gan | Independent Loyal Orange Institution ![]() |
Pencadlys | Belffast ![]() |
Enw brodorol | Loyal Orange Institution ![]() |
Gwefan | https://www.goli.org.uk/ ![]() |
![]() |
Sefydliad Protestannaidd, yn bennaf yng Ngogledd Iwerddon, yw'r Urdd Oren (Saesneg: Orange Order). Nodweddir y sefydliad gan ei wrthwynebiad i'r Eglwys Gatholig. Rhaid i unrhyw aelod fod yn Brotestant, ac fel rheol rhaid bod o deulu Protestannaidd hefyd, er y gellir gwneud eithriadau.[1][2][3]
Ceir gwreiddiau'r sefydliad yn rhan olaf y 18g, a'r ymladd yn erbyn yr Amddiffynwyr, oedd yn Gatholigion. Fe'i sefydlwyd yn Loughgall, Swydd Armagh, ym 1795. Daw'r enw o deitl Tywysog Orange, teitl gwreiddiol Wiliam III & II, brenin Lloegr a'r Alban. Daeth ef yn arwr Protestaniaid Gogledd Iwerddon yn dilyn ei fuddugoliaeth ym Mrwydr y Boyne. Er nad oes cysylltiad uniongyrchol a'r lliw oren, daeth y lliw yma i gynrychioli unoliaethwyr Gogledd Iwerddon.
Ymladdodd llawer o aelodau'r Urdd ar ochr y llywodraeth yng ngwrthryfel 1798. Erbyn diwedd y 19g, roedd ei aelodaeth wedi lleihau yn fawr, ond adfywiodd pan gododd gwrthwynebiad i annibyniaeth Iwerddon ar ran y Protestaniaid. Daeth yn elfen bwysig yng Ngogledd Iwerddon wedi rhannu'r ynys. Cynhelir gorymdeithiau blynyddol ar y Deuddegfed Gogoneddus, sy'n aml yn achosi anghydfod.