Urdd Gobaith Cymru

Urdd Gobaith Cymru

Logo canmlwyddiant yr Urdd gyda'r triongl gwyn, coch, a gwyrdd traddodiadol
Logo canmlwyddiant yr Urdd gyda'r triongl gwyn, coch, a gwyrdd traddodiadol

AnthemHei, Mistar Urdd
PencadlysGwersyll yr Urdd Glan-llyn
AelodaethDecrease 55,000 (2021)
Iaith / Ieithoedd swyddogolCymraeg
Chief ExecutiveSian Lewis
MascotMistar Urdd
Sefydlwyd25 Ionawr 1922
SefydlyddIfan ab Owen Edwards
LleoliadCymru
Gweithwyr313 (2019)
Gwefanhttps://www.urdd.cymru/cy/

Mudiad ieuenctid Cymraeg yw Urdd Gobaith Cymru â dros 56,000 o aelodau[1] rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Sefydlwyd yr Urdd yn 1922. Mae’r Urdd yn fudiad unigryw gyda’r nod i ‘sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i holl ieuenctid Cymru ddatblygu’n unigolion cyflawn; a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol’. Mae dros 4 miliwn o blant a phobl ifanc wedi bod yn rhan o’r Urdd ers ei sefydlu.

Mae’r Urdd yn sicrhau bod darpariaeth sy’n addas i ddysgwyr Cymraeg yn ganolog i holl wasanaethau a chyfleoedd yr Urdd.

Mae Urdd Gobaith Cymru yn darparu cyfleoedd positif sydd yn ymestyn gorwelion pobl ifanc trwy gynnig profiadau chwaraeon, celfyddydol, preswyl, dyngarol, awyr agored, rhyngwladol, prentisiaethau a gwirfoddoli i blant a phobl ifanc yng Nghymru.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne