Enghraifft o: | monastic order, sefydliad, urdd Gatholig |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 529 |
Prif bwnc | lifestance organisation |
Yn cynnwys | benedictine monk, Ordre monastique de Chalais |
Lleoliad yr archif | Stadsarchief Poperinge |
Pennaeth y sefydliad | General of Order of Saint Benedict |
Sylfaenydd | Bened o Nursia |
Isgwmni/au | Nuns of the order of Saint Benedict |
Pencadlys | Church of Sant'Anselmo all'Aventino, Rome |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | http://www.osb.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Urdd fynachaidd yn yr Eglwys Gatholig yw Urdd Sant Bened (Lladin: Ordo Sancti Benedicti), a elwir yn aml y Benedictiaid. O fewn yr Urdd, mae pob mynachlog, abaty a phriordy yn hunanlywodraethol, gyda'r sefydliadau canolog yn eu cefnogi. Sefydlwyd y corff canolog, y Cynghrair Benedictaidd, yn 1883 gan Pab Leo XIII yn ei Summum semper,
Sefydlwyd mynachlog yn Monte Cassino yn yr Eidal gan Sant Bened o Nursia tua 529, y cyntaf o tua dwsin o fynachlogydd a sefydlodd ef. Er hynny, nid oes tystiolaeth ei fod wedi bwriadu sefydlu urdd; mae Rheol San Bened yn pwysleisio fod pob cymuned yn hunanlywodraethol. Daeth tai crefydd yn dilyn Rheol San Bened yn gyffredin iawn yn Ewrop yn yr Oesoedd Canol.
Dilynir Rheol San Bened hefyd gan y Sistersiaid a'r Trappistiaid, ond nid ydynt hwy yn rhan o'r Cynghrair Benedictaidd.