Arwyddlun Urdd y Gardas. | |
Enghraifft o: | urdd sifalrig |
---|---|
Label brodorol | The Most Noble Order of the Garter |
Rhan o | urddau, anrhydeddau, a medalau'r Deyrnas Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 1348 |
Sylfaenydd | Edward III, brenin Lloegr |
Enw brodorol | The Most Noble Order of the Garter |
Gwefan | https://www.royal.uk/the-order-of-the-garter |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Urdd farchogaidd a sefydlwyd yn Nheyrnas Lloegr gan y Brenin Edward III ym 1348 yw Ardderchocaf Urdd y Gardas (Saesneg: the Most Noble Order of the Garter), neu weithiau yn Gymraeg Urdd y Gardas Aur. Hon yw'r bennaf urdd o farchogion yng nghyfundrefn anrhydeddau'r Deyrnas Unedig, a'r urdd hynaf o'i math yn Ewrop. Yn ôl trefn blaenoriaeth y Deyrnas Unedig, dim ond Croes Fictoria a Chroes Siôr sydd yn uwch nag Urdd y Gardas. Mae teyrn y Deyrnas Unedig—ar hyn o bryd, y Brenin Siarl III—yn dwyn y teitl Uchel Feistr Urdd y Gardas, ac yn bennaeth ar 25 o farchogion, gan gynnwys Tywysog Cymru.
Mae gwisg yr urdd yn cynnwys gardas melfed glas, gyda'r arwyddair mewn llythrennau euraid—a wisgir ar y goes chwith o dan y pen-glin—mantell felfed las gyda llen fewnol o sidan gwyn, a swrcot â chwfl a choler euraid ac enamel. Mae menywod hefyd yn gwisgo gwregys ar draws yr ysgwydd chwith.[1] Mae arwyddlun yr urdd yn cynnwys croes San Siôr ar darian, wedi ei hamgylchynu gan y gardas glas ei hun ac arni'r arwyddair Honi soit qui mal y pense (Ffrangeg Canol am "cywilydd ar yr un sydd yn meddwl drwg ohono").