Gwlad | Bosnia and Herzegovina |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 2000 |
Tymor cyntaf | Ionawr 2000 |
Nifer o dimau | 12 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | Cynghrair Gyntaf Ffederasiwn Bosnia a Hertsegofina Cyngrhair Gynraf Republika Srpska |
Cwpanau | Cwpan Bêl-droed Bosnia a Hercegovina |
Cwpanau rhyngwladol | UEFA Champions League UEFA Europa League UEFA Europa Conference League |
Pencampwyr Presennol | Sarajevo (5ed teitl) (2019–20) |
Mwyaf o bencampwriaethau | Željezničar, Zrinjski (6 teitl) |
Partner teledu | Arena Sport |
Gwefan | http://www.nfsbih.ba |
2020–21 Premier League |
Uwch Gynghrair Bosnia a Hertsegofina (Bosnieg: Premijer liga Bosne i Hercegovine; Cyrilig: м:тел Премијер лига Босне и Херцеговине) yw prif adran pêl-droed yng ngweriniaeth Bosnia a Hertsegofina ac fe'i trefnir gan y Cymdeithas Bêl-droed Bosnia a Hertsegofina.
Gelwir yn swyddogol ac am resymau nawdd cyfredol (2020) yn M:tel Premijer liga Bosne i Hercegovine neu yn syml Premijer liga neu Liga 12. Mae pencampwr y gynghrair yn cael lle yn ail rownd Cynghrair y Pencampwyr UEFA.
Mae'r gynghrair yn cynnwys bellach yn cynnwys 12 clwb (roedd yn 16 clwb nes 2016-17) ac ar ddiwedd pob tymor mae'r ddau waelod yn cael eu hisraddio i Gynghrair Gyntaf y Republika Srpska a Chynghrair Gyntaf Bosnia a Herzegovina, sy'n ffurfio ail adran Bosnia. Mae hyrwyddwyr pob grŵp yn cael eu dyrchafu i'r Premijer Liga. Ym 1998 a 2000 penderfynwyd ar y pencampwr ar ôl chwarae ail gyfle rhwng clybiau Croateg Bosnia a Bosnia. Yn 2001, sefydlwyd cynghrair genedlaethol am y tro cyntaf yn dilyn gwrthod clybiau Serbia i gymryd rhan.