![]() | |
Gwlad | Gogledd Macedonia |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 1992 |
Nifer o dimau | 10 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | Ail Adran Bêl-droed Macedonia - 2. MFL |
Cwpanau | Cwpan Macedonia |
Cwpanau rhyngwladol | Cynghrair y Pencampwyr UEFA Cynghrair Europa UEFA |
Pencampwyr Presennol | Shkëndija (3ydd teitl) (2018–19) |
Mwyaf o bencampwriaethau | Vardar (10 titles) |
Partner teledu | MRT Arena Sport |
Gwefan | ffm.mk |
![]() |
Y Prva Makedonska Fudbalska Liga (Macedoneg: Прва македонска фудбалска лига; "Prif Gynghrair Pêl-droed Macedonia"); talfyrrir hefyd yn 1. MFL a'r Prva Liga ac yn Albaneg (iaith oddeutu 20% o'r boblogaeth),[1] Liga e parë e futbollit maqedonas, yw lefel uchaf cynghrair bêl-droed gwladwriaeth Gogledd Macedonia a adweinir, fel rheol ar lafar fel "Macedonia". Adnabwyd y wladwriaeth fel Cyn-weriniaeth Iwsoglafia, Macedonia hyd nes 2019 yn dilyn blynyddoedd o drafod gyda Gwlad Groeg oedd yn gwrthwynebu y defnydd o'r enw "Macedonia" a oedd, yn eu tŷb nhw, yn tanseilio hanes a threftadaeth Groegeg y dalaith o'r un enw sydd yn rhan o Wlad Groeg. Gweinyddir y gynghrair gan Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Macedonia.