Gwlad | Moldova |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 1992 |
Nifer o dimau | 8 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | Adran "A" Moldofa |
Cwpanau | Cwpan Pêl-droed Moldofa Super Cup Moldofa |
Cwpanau rhyngwladol | Cynghrair y Pencampwyr UEFA Cynghrair Europa UEFA |
Pencampwyr Presennol | Sheriff Tiraspol (20. teitl) (2021–22) |
Mwyaf o bencampwriaethau | Sheriff Tiraspol (20) |
Gwefan | fmf.md |
2021–22 Moldovan National Division |
Adran Genedlaethol Moldofa (Rwmaneg: Divizia Națională) yw Uwch Gynghrair pêl-droed Gweriniaeth Moldofa. Sefydlwyd y gystadleuaeth ym 1992, pan ddaeth y wlad yn annibynnol oddi ar yr Undeb Sofietaidd. Caiff ei gweinyddu fel rhan o strwythur genedlaethol Ffederasiwn Pêl-droed Moldofa yr FMF.
Ar hyn o bryd mae wyth tîm yn y gystadleuaeth. Ar ddiwedd y tymor, mae'r clwb gwaelod yn cael ei israddio i'r Adran "A" (sef, yr ail haen) a'i ddisodli gan bencampwr y gynghrair is.
Sheriff Tiraspol sydd wedi'i leoli yng Ngweriniaeth Moldafia Pridnestrovia - tiriogeaeth sydd heb ei gydnabod de jure - yw'r clwb cynghrair mwyaf llwyddiannus gydag 19 teitl, ac fe'i dilynir gan Zimbru Chișinău gydag wyth buddugoliaeth. Fe wnaeth Dacia Chișinău, FC Tiraspol a Milsami Orhei hefyd orchfygu'r teitl ar un achlysur.