Uwch glwstwr

Uwch glwstwr
Enghraifft o:math o wrthrych seryddol Edit this on Wikidata
Mathgwrthrych seryddol Edit this on Wikidata
Rhan ogalaxy filament Edit this on Wikidata
Yn cynnwysgrŵp neu glwstwr o alaethau Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map sy'n dangos yr uwch glystyrau agosaf (i Uwch Glwstwr Virgo). Cliciwch i weld y manylion.

Grŵp o grwpiau a chlystyrau galaethol llai sy'n cael eu dosbarthu ymysg strwythurau mawr y cosmos yw uwch glwstwr neu uwchglwstwr (supercluster). Gorwedd ein galaeth ni, Galaeth y Llwybr Llaethog, yn Uwch Glwstwr Virgo.

Mae bodolaeth uwch glystyrau yn dangos mai anghyfartal yw dosbarthiad galaethau ein bydysawd; mae'r mwyafrif yn gorwedd mewn grwpiau a chlystyrau, gyda grwpiau yn cynnwys hyd at tua 50-100 o alaethau a chlystyrau yn cynnwys hyd at rai miloedd. Mae'r grwpiau a chlystyrau hyn, ynghyd â rhai galaethau ynysig, yn ffurfio yn eu tro strwythurau mwy byth a elwir yn uwch glystyrau.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne