Roedd yr Uwchgynhadledd hon yn un o ddigwyddiadau'r Cenhedloedd Unedig. | |
Enghraifft o: | cynhadledd |
---|---|
Dechreuwyd | 13 Mehefin 1992 |
Daeth i ben | 14 Mehefin 1992 |
Olynwyd gan | Uwchgynhadledd y Ddaear 2002 |
Lleoliad | Rio de Janeiro |
Gwladwriaeth | Brasil |
Roedd Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd a Datblygiad (UNCED), a elwir hefyd yn Gynhadledd Rio neu'n Uwchgynhadledd y Ddaear (Portiwgaleg: ECO92), yn gynhadledd fawr gan y Cenhedloedd Unedig a gynhaliwyd yn Rio de Janeiro rhwng 3ydd o Fehefin a'r 14fed o Fehefin 1992.
Crëwyd Uwchgynhadledd y Ddaear er mwyn i aelod-wladwriaethau gydweithio'n rhyngwladol ar faterion datblygu ar ôl y Rhyfel Oer. Oherwydd bod materion yn ymwneud â chynaliadwyedd yn rhy fawr i aelod-wladwriaethau unigol ymdrin â hwy, cynhaliwyd Uwchgynhadledd y Ddaear fel llwyfan i aelod-wladwriaethau gydweithio. Ers yr Uwchgynhadledd, mae llawer osefydliadau anllywodraethol (NGOs) ac unigolion wedi dod yn rhan o'r ymgyrchoedd a drafodwyd ee cynaliadwyedd.[1]