![]() | |
Math | dyffryn ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 115,221 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Lombardian Alps and Prealps ![]() |
Sir | Talaith Brescia, Talaith Bergamo ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,347 km² ![]() |
Gerllaw | Oglio ![]() |
Cyfesurynnau | 46.0075°N 10.3475°E ![]() |
Cadwyn fynydd | Adamello-Presanella Alps ![]() |
![]() | |
Cwm yn ardal Alpaidd Lombardia yn Yr Eidal yw Val Camonica. Gorwedd yn rhan uchaf dyffryn Afon Oglio, i fyny'r afon o Lyn Iseo. Mae'r rhan fwyaf o'r cwm yn rhan o dalaith Brescia.
Mae Val Camonica yn enwog fel cartref y casgliad mwyaf o luniau carreg yn yr Eidal is-Alpaidd. Yno y cerfiwyd tua 250,000 o petroglyphiau ar gerrig gan aelodau o lwyth y Camunni o tua 8000 CC ymlaen. Maent yn cynnwys motifau cosmologaidd, ffigurol a chartograffaidd, weithiau'n lluniau unigol ond hefyd yn gyfuniadau o luniau sy'n ffurfio cyfresi anferth o olygfeydd hela a lluniau defodol.
Fe ddaethant i sylw'r byd am y tro cyntaf yn 1909, pan ddarganfu'r daearyddwr Bresciaidd Walter Laeng ddau betroglyph yn Pian del Greppe ger Cemmo. Ers y 1950au mae degau o filoedd o'r lluniau hyn wedi cael eu catalogio fel rhan o brosiect sy'n dal i fynd ymlaen heddiw. Yn 1979 ychwanegodd UNESCO y safle i'w rhestr o luniau ar garreg byd-eang.