Velupillai Prabhakaran

Velupillai Prabhakaran
Ganwyd26 Tachwedd 1954 Edit this on Wikidata
Valvettithurai Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mai 2009 Edit this on Wikidata
Nanthi Lagoon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSri Lanca Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol, gwleidydd, ymladdwr rhyddid Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolTeigrod Rhyddhau Tamil Eelam Edit this on Wikidata

Velupillai Prabhakaran (26 Tachwedd 195418 Mai 2009) oedd sylfaenydd ac arweinydd Teigrod Rhyddhau Tamil Eelam (y "Teigrod Tamil") yn Sri Lanca.

Ganed ef yn Velvettithurai. Sefydlodd y Teigrod Tamil yn 1972, i ymladd am wladwriaeth annibynnol yng ngogledd a dwyrain Sri Lanca. Roedd Sri Lanca ac India yn chwilio amdano ar gyhuddiadau o derfysgaeth, a chomdemniwyd ef i farwolaeth yn ei absenoldeb. Datblygodd ymosodiadau'r Teigrod i roi cychwyn i Ryfel Cartref Sri Lanca, a barhaodd hyd nes iddynt gael eu gorchfygu gan luoedd arfog Sri Lanca ym mis Mai 2009. Am gyfnod, roedd y Teigrod yn rheoli rhan helaeth o ogledd a dwyrain yr ynys.

Dechreuwyd trafodaethau heddwch nifer o weithiau, y tro olaf yn 2002. Wedi i'r trafodaethau hyn fethu'n derfynol yn 2006, dechreuodd lluoedd arfog Sri Lanca ar ymgyrch fawr yn eu herbyn, ac yn raddol cipiwyd eu tiriogaethau oddi arnynt. Adroddwyd gan gyfryngau Sri Lanca fod Velupillai Prabhakaran wedi ei ladd yn nyddiau olaf yr ymladd. Dywedodd AFP ei fod ef a dau gynorthwydd, Soosai a Pottu Amman, wedi eu saethu'n farw tra'n ceisio dianc mewn ambiwlans.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne