Vera Lynn

Vera Lynn
GanwydVera Margaret Welch Edit this on Wikidata
20 Mawrth 1917 Edit this on Wikidata
East Ham Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mehefin 2020 Edit this on Wikidata
Princess Royal Hospital Edit this on Wikidata
Label recordioEMI, His Master's Voice, Decca Records, London Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Brampton Primary School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, canwr, canwr-gyfansoddwr, hunangofiannydd, artist recordio, actor, awdur geiriau Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, War Medal 1939–1945, Burma Star, Swyddog Urdd Sant Ioan, Cydymaith Anrhydeddus, Commander of the Order of Orange-Nassau, Classic Brit Awards Edit this on Wikidata

Cantores ac actores Seisnig a oedd yn hynod boblogaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd y Fonesig Vera Lynn, DBE (ganed Vera Margaret Welch; 20 Mawrth 191718 Mehefin 2020)[1][2]. Yn ystod y rhyfel, teithiodd o amgylch yr Aifft, yr India a Bwrma, gan ddarparu cyngherddau awyr agored ar gyfer y lluoedd arfog. Cawsai ei galw'n "The Forces' Sweetheart"; ei chaneuon mwyaf adnabyddus yw "We'll Meet Again" a "The White Cliffs of Dover".

Parhaodd i fod yn boblogaidd ar ôl y rhyfel, gan ymddangos ar raglenni teledu a radio yn y Deyrnas Unedig a'r UDA. Recordiodd mwy o ganeuon megis "Auf Wiederseh'n Sweetheart" a "My Son, My Son". Yn 2009 hi oedd yr artist byw hynaf erioed i gyrraedd rhif 1 siart albymau'r Deyrnas Unedig, pan oedd yn 92 mlwydd oed.[3] Treuliodd llawer o'i hamser a'i hegni yn gweithio gydag elusennau sy'n ymwneud â chyn-aelodau'r lluoedd arfog, plant anabl a chancr y fron. Roedd yn parhau i gael ei pharchu'n fawr gan y rheiny a frwydrodd yn yr Ail Ryfel Byd ac yn 2000 cafodd ei henwi fel y Brydeinwraig a gynrychiolai orau ysbryd yr 20g.[4]

  1. Dame Vera Lynn dies at age 103 (en) , BBC News, 18 Mehefin 2020.
  2. (1995) You Must Remember This. Deyrnas Unedig: Boxtree Limited. ISBN 0 7522 1065 3
  3.  Bywgraffiad ar gyfer Vera Lynn. IMDb.
  4.  Bywgraffiad Vera Lynn. Index of Musician Biographies.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne