![]() | |
Enghraifft o: | cymeriad llenyddol, cymeriad ffilm, bod dynol ffuglennol ![]() |
---|---|
Crëwr | Mary Shelley ![]() |
![]() |
Y prif gymeriad yn nofel o 1818, Frankenstein, or The Modern Prometheus gan Mary Shelley, yw Victor Frankenstein. Mae'n wyddonydd sydd, ar ôl astudio prosesau cemegol a dadfeiliad pethau byw, yn dod o hyd i ffordd i greu bod byw. Mae teitl Shelley yn ei gymharu â'r cymeriad mytholegol Promethëws, a luniodd fodau allan o glai a rhoi tân iddynt. Mae Victor yn creu creadur (a elwir yn aml yn Anghenfil Frankenstein, neu'n syml "Frankenstein")ond mae'n difaru ymyrryd â natur a thrwy hynny beryglu ei fywyd ei hun a bywydau ei deulu a'i ffrindiau pan fydd y creadur yn ceisio dial yn ei erbyn. Fe’i cyflwynir gyntaf yn y nofel wrth iddo geisio dal yr anghenfil yn yr Arctig ac fe'i hachubir rhag marwolaeth gan morwyr.