Vivienne Westwood | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Vivienne Isabel Swire ![]() 8 Ebrill 1941 ![]() Tintwistle ![]() |
Bu farw | 29 Rhagfyr 2022 ![]() Clapham, Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | academydd, dylunydd ffasiwn, person busnes, dylunydd gemwaith, ymgyrchydd ![]() |
Blodeuodd | 2020 ![]() |
Cyflogwr | |
Mudiad | pync gwrthsefydliad, New Romantic ![]() |
Priod | Derek Westwood, Malcolm McLaren, Andreas Kronthaler ![]() |
Plant | Joseph Corré ![]() |
Gwobr/au | The Fashion Awards, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Dylunydd Brenhinol ar gyfer Diwydiant, Berliner Bär, Gwobr Diwylliant Ewrop ![]() |
Dylunydd ffasiwn a dynes busnes o Loegr oedd Vivienne Westwood (8 Ebrill 1941 – 29 Rhagfyr 2022).[1][2] Roedd hi'n gyfrifol yn bennaf am ddod â ffasiwn pync a 'thon newydd' i'r prif lif.[3]
Cafodd ei sylw gyntaf am greu dillad i siop "SEX" Malcolm McLaren ar King's Road, Llundain. Roedd y cydweithrediad rhwng y ddau yn llwyddiannus a dylanwadol yn enwedig eu cyfuniad o ddillad a cherddoriaeth, gan fandiau fel Sex Pistols.
Ers hynny agorodd Westwood sawl siop a cefnogodd achosion gwleidyddol trwy ei gwaith gan gynnwys CND, mudiadau yn erbyn newid hinsawdd a mudiadau hawliau sifil.[4]