Vladimir Tatlin | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 16 Rhagfyr 1885 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Kharkiv, Moscfa ![]() |
Bu farw | 31 Mai 1953 ![]() o clefyd heintus ![]() Moscfa ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, pensaer, cerflunydd, academydd, darlunydd, cynllunydd llwyfan, cynllunydd, gwneuthurwr printiau, artist cydosodiad, gludweithiwr, drafftsmon ![]() |
Adnabyddus am | Tŵr Tatlin ![]() |
Arddull | architectural view, figure, noethlun, portread, bywyd llonydd ![]() |
Mudiad | Adeileddiaeth ![]() |
Plant | Anatoly Romov ![]() |
Roedd Vladimir Yevgraphovich Tatlin (Rwsieg: Влади́мир Евгра́фович Та́тлин; (28 Rhagfyr 1885 – 31 Mai 1953)[1] yn arlunydd a phensaer o Ymerodraeth Rwsia/Undeb Sofietaidd. Gyda Kazimir Malevich roedd yn un o’r ddau berson pwysicaf yn y mudiad celfyddydol avant garde yn Rwsia yn y 1920au. Yn ddiweddarach fe ddaeth yn amlwg yn y mudiad celf Lluniadaeth, (Constructivism).
Cofir Taltin yn bennaf am Dŵr Tatlin, neu'r prosiect ar gyfer y Gofeb i'r Drydedd Rhyngwladol (1919–20) [2], oedd yn gynllun i godi tŵr anferthol na chafodd erioed mo'i adeiladu [3]. Bwriad Tatlin oedd codi’r tŵr ym Mhetrograd (St. Petersburg yn awr) yn dilyn y Chwyldro Bolsieficaidd ym 1917, fel pencadlys i'r mudiad comiwnyddol y Comintern (y Drydedd Rhyngwladol).