Walt Whitman Rostow | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 7 Hydref 1916 ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Bu farw | 13 Chwefror 2003 ![]() Austin ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, academydd, gwleidydd, llenor, hanesydd, gwyddonydd gwleidyddol ![]() |
Swydd | Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol, Counselor of the United States Department of State, Director of Policy Planning, Deputy National Security Advisor ![]() |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd ![]() |
Priod | Elspeth Rostow ![]() |
Gwobr/au | OBE, Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Ysgoloriaethau Rhodes, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami ![]() |
Economegydd ac hanesydd economaidd Americanaidd oedd Walt Whitman Rostow (7 Hydref 1916 – 13 Chwefror 2003)[1] a wasanaethodd fel Cynorthwy-ydd Arbennig dros Faterion Diogelwch Cenedlaethol dan yr Arlywydd Lyndon B. Johnson.
Ganwyd Rostow yn Ninas Efrog Newydd i deulu Iddewig-Rwsiaidd. Roedd yn ysgolhaig Rhodes ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd yn yr Office of Strategic Services (OSS), y rhagflaenydd i'r CIA. Addysgodd mewn nifer o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau gan gynnwys y Massachusetts Institute of Technology. Roedd yn wrth-gomiwnydd cryf ac ysgrifennodd y llyfr The Stages of Economic Growth: A Non-Communist Manifesto (1960) gan ddadlau yr oedd angen i ddarparu cyfalaf i wledydd tlawd i'w hannog i droi at gyfalafiaeth a democratiaeth ac nid comiwnyddiaeth.[2]
Bathodd Rostow arwyddair ymgyrch arlywyddol John F. Kennedy ym 1960: Let's Get This Country Moving Again,[3] ac mae'n bosib bathodd hefyd y term New Frontier mewn araith Kennedy pan enillodd yr etholiad.[4] Penododd yr Arlywydd Kennedy Rostow yn Ddirprwy Gynorthwy-ydd Arbennig dros Faterion Diogelwch Cenedlaethol ym 1961. Roedd Rostow yn gadeirydd cyngor cynllunio polisi yr Adran Dramor o 1961 hyd 1966, ac o 1966 hyd i'r Arlywydd Johnson adael y Tŷ Gwyn yn Ionawr 1969 roedd Rostow yn Gynorthwy-ydd Arbennig dros Faterion Diogelwch Cenedlaethol. Roedd Rostow yn un o gefnogwyr mwyaf brwd yng ngweinyddiaethau Kennedy a Johnson dros rôl yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam, gan gredu yr oedd yn hanfodol er mwyn sicrhau moderneiddio economaidd yn Ne Ddwyrain Asia.[2][5] Yn Rhagfyr 1963 lluniodd "osodiad Rostow", gan ddadlau bod angen dwysháu'r rhyfel trwy daro cefnogaeth allanol herwfilwyr y Fiet Cong (sef lluoedd Gogledd Fietnam) a niweidio'r gelyn yn seicolegol.[3]
Ar ôl gadael y llywodraeth daeth Rostow yn athro economi wleidyddol yn Ysgol Materion Cyhoeddus Lyndon B. Johnson ym Mhrifysgol Texas ac ysgrifennod mwy na 30 o lyfrau.[3]