Walt Disney | |
---|---|
Ffugenw | Disney, Walter Elias |
Ganwyd | Walter Elias Disney 5 Rhagfyr 1901 Chicago |
Bu farw | 15 Rhagfyr 1966 o cwymp cylchredol Burbank |
Man preswyl | Dinas Kansas, Los Angeles, Marceline, Chicago |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, animeiddiwr, cyflwynydd teledu, actor llais, llenor, cynhyrchydd, arlunydd, dyfeisiwr, sgriptiwr, actor ffilm, darlunydd, cartwnydd dychanol, cyfarwyddwr, actor, cynhyrchydd |
Adnabyddus am | Mickey Mouse |
Arddull | ffilm deuluol, ffilm animeiddiedig |
Prif ddylanwad | Aesop's Film Fables |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol, plaid Ddemocrataidd |
Tad | Elias Disney |
Mam | Flora Call Disney |
Priod | Lillian Disney |
Plant | Diane Disney Miller |
Llinach | Disney family |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Uwch-addurn Anrhydeddus am Wasanaeth dros Weriniaeth Awstria, Gwobr Ymddiriedolwyr Grammy, Academy Award for Best Live Action Short Film, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Academy Award for Best Documentary (Short Subject), Academy Award for Best Documentary (Short Subject), Gwobr yr Academi am y Rhaglen Ddogfen Orau, Gwobr yr Academi am y Rhaglen Ddogfen Orau, Primetime Emmy Award for Best Producer for a Film Series, Medal Aur y Gyngres, Neuadd Enwogion California, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr, Winsor McCay Award, Gwobr Emmy, Y César Anrhydeddus, Audubon Medal, Irving G. Thalberg Memorial Award, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, American Choreography Awards, Progress Medal, Urdd Eryr Mecsico, Order of the Crown of Thailand, Urdd Croes y De, Yr Arth Aur, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Gwobr Emmy 'Primetime' |
llofnod | |
Cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilmiau o'r Unol Daleithiau oedd Walter Elias Disney (5 Rhagfyr 1901 - 15 Rhagfyr 1966).[1]
Mae'n adnabyddus fel un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol a dyfeisgar ym maes adloniant yn ystod yr 20g. Fel cyd-sylfaenydd (gyda'i frawd Roy O. Disney) y cwmni Walt Disney Productions, daeth Disney yn un o'r cynhyrchwyr ffilmiau enwocaf yn y byd. Mae gan y gorfforaeth a sefydlwyd ganddo, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel 'The Walt Disney Company', drosiant blynyddol o oddeutu $35 biliwn.
Gwnaeth Disney enw iddo'i hun hefyd fel un o ddatblygwyr mwyaf dyfeisgar y cyfrwng animeiddio ac fel cynllunydd parciau thema. Creodd Disney a'i staff rai o gymeriadau chwedlonol enwoca'r byd, gan gynnwys Mickey Mouse. Ei enw ef sydd ar barciau Disneyland a Walt Disney World Resort yn yr Unol Daleithiau, Japan, Ffrainc a Tsieina. Hoff gymeriad Disney o'r ffilmiau oedd Goofy.[2] Bu farw Disney o gancr yr ysgyfaint ar 15 Rhagfyr 1966, rhai blynyddoedd yn unig cyn i Walt Disney World agor yn Lake Buena Vista, Fflorida.