Enghraifft o: | grŵp ethnig |
---|---|
Math | pobl Romáwns |
Enw brodorol | Walons |
Gwladwriaeth | Gwlad Belg, Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pobl Ladinaidd sy'n frodorol i Walonia yn ne Gwlad Belg yw'r Walwniaid. Maent yn siarad tafodieithoedd Ffrangeg a'r Walwneg. Disgynna'r Walwniaid o'r Gâl-Rufeiniaid a chanddynt waedoliaeth Germanaidd o'r hen Ffranciaid. Maent yn cyfri am ryw traean o boblogaeth Gwlad Belg, ac hwy yw grŵp ethno-ieithyddol fwyaf y wlad ar ôl y Ffleminiaid. Amcangyfrifir bod 4.2–5.3 miliwn o Walwniaid ethnig yn y flwyddyn 2015.[1]
Mae'r mwyafrif o Walwniaid a Ffleminiaid yn rhannu'r un traddodiad crefyddol, Pabyddiaeth, ac hanes gwleidyddol hir, ond nid yw'r ddwy gymdeithas yn siarad yr un ieithoedd. Iaith Romáwns a chanddi is-haen Gelteg a dylanwadau Germaneg yw'r Walwneg, a elwir weithiau yn "Hen Ffrangeg".[1] Yn yr 20g, cafodd ffurf safonol ar Ffrangeg ei ymsefydlu yn Walonia, ac erbyn heddiw dim ond rhyw draean o Walwniaid sy'n medru'r iaith frodorol. Ceir sefyllfa debyg i'r gogledd, lle mae'r Iseldireg wedi cymryd tir oddi ar Fflemeg. Er bod trigolion Ffrangeg y brifddinas Brwsel yn rhannu tras debyg â thrigolion Walonia, nid ydynt fel rheol yn ystyried eu hunain yn Walwniaid.[2]
O ran y Walwniaid Ffrangeg, siaredir Picardeg yng ngorllewin Walonia a Champenois a Lorrain yn y de-ddwyrain. Yn ogystal â phoblogaeth frodorol Walonia, triga Walwniaid sy'n siarad Walwneg yn département Ardennes yn Ffrainc, yn enwedig yr ardal o dir a amgylchynir gan y ffin â Gwlad Belg ar lannau Afon Moûze. Yng ngogledd-ddwyrain Walonia mae'r gymuned Almaeneg ger y ffin a'r Almaen, ac nid yw'r boblogaeth hon yn Walwniaid. Yn ne-ddwyrain Walonia mae siaradwyr Lwcsembwrgeg ger y ffin â Lwcsembwrg, ac fel rheol ystyrir y rhain yn Walwniaid yn hytrach na rhan o'r gymuned Almaeneg. O ganlyniad i ymfudo, triga nifer o bobl o dras Walwnaidd yn Québec, Canada, ac yn Wisconsin, UDA.